Sefydlwyd y Ganolfan ym mis Tachwedd 2021 a daeth â dau frand cyfarwydd o fewn y sector addysg yng Nghymru ynghyd.
Ers blynyddoedd lawer, mae Peniarth wedi bod yn un o brif gyhoeddwyr adnoddau print a digidol sy’n gwasanaethu’r sector addysg yng Nghymru gyfan o gyfnod y blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae Peniarth wedi creu cannoedd o adnoddau sy'n cynnwys cynlluniau darllen poblogaidd fel Tric a Chlic, nifer o apiau a gwefannau. Ariennir llawer o'n hadnoddau gan Lywodraeth Cymru ac maent yn ategu gweithrediad Cwricwlwm i Gymru.
Mae Rhagoriaith yn un o ddarparwyr hyfforddiant Cymraeg mwyaf blaenllaw Cymru yn y sector addysg ac yn un o ddarparwyr Llywodraeth Cymru o’r Cynllun Sabothol i Athrawon a Chynorthwywyr Dosbarth. Mae Rhagoriaith yn gallu darparu cyrsiau pwrpasol ar gyfer ysgolion i fodloni gofynion penodol, e.e. gwersi un-i-un neu ddarpariaeth datblygiad proffesiynol. Mae'r cyrsiau hyn wedi'u hanelu yn benodol i godi hyder a hyfedredd athrawon a dysgwyr, codi safonau ar draws yr ysgol a helpu i ddatblygu gallu unigolion i addysgu’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm ar bob lefel.