CGC PRIF LOGO UWTSD

Polisi Preifatrwydd

Diogelu Data a Phreifatrwydd

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (y cyfeirir ati yma fel PCYDDS) yn cefnogi camau i ddiogelu preifatrwydd ar y rhyngrwyd yn unol â gofynion deddfwriaeth y DU gan gydnabod bod preifatrwydd personol yn fater pwysig.

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar PCYDDS i gydymffurfio â darpariaethau’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a ddaeth i rym ar 25/05/18.

Caiff y manylion personol a gesglir trwy ein gwefan ac a ddarperir gennych chi, y defnyddiwr, eu prosesu yn unol â’r ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwerthu, trwyddedu nac yn masnachu unrhyw wybodaeth bersonol i eraill. Nid ydym yn darparu gwybodaeth bersonol i gwmnïau marchnata uniongyrchol neu sefydliadau eraill tebyg.

Telerau

Y mae hawlfraint pob dyluniad, testun a gwaith graffig a berthyn i'r wefan, ynghyd ag unrhyw ddetholiad neu drefniant ohonynt, a phob crynhoad ar sail meddalwedd, cod ffynhonnell weledol, meddalwedd (gan gynnwys applets) a phob deunydd arall ar wefan canolfangwasanaethaucymraeg.cymru, yn eiddo i PCYDDS neu'r sawl a gyflenwodd y cynnwys a'r dechnoleg iddynt. Cedwir pob hawl.

Rhoir caniatâd i gopio'n electroneg ac argraffu ar gopi caled rannau o'r wefan hon i'r unig ddiben o osod archeb drwy canolfangwasanaethaucymraeg.cymru neu ynteu ddefnyddio'r wefan hon fel adnodd siopa. Gwaherddir yn llwyr ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall ddeunyddiau'r wefan, gan gynnwys dyblygu i ddibenion heblaw'r rhai a nodir uchod, addasu, dosbarthu, neu ailgyhoeddi, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan PCYDDS.

I’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, mae PCYDDS yn darparu’r wefan hon a’i chynnwys ar sail ‘fel y mae’ ac ni wna unrhyw honiadau na rhoi gwarantau o unrhyw fath (gwedir pob cyfrifoldeb yn benodol) yng nghyswllt y wefan neu ei ddeunyddiau gan gynnwys, heb gyfyngiad, warantau marchnadaeth ac addasrwydd ar gyfer diben arbennig. At hyn, nid yw PCYDDS yn honni nac yn gwarantu bod yr wybodaeth a geir drwy’r wefan hon yn gywir, yn gyflawn, nac yn gyfredol. Gall gwybodaeth am brisiau ac argaeledd newid yn ddirybudd.

Mae PCYDDS yn darparu'r wybodaeth a geir ar canolfangwasanaethaucymraeg.cymru gyda phob ewyllys da. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y cynhwysir yr wybodaeth ddiweddaraf ond ni ddelir PCYDDS yn gyfrifol os ceir wedyn fod yr wybodaeth yn anghywir. Pan fynegir barn, fel y ceir ar daflenni gwybodaeth ymlaen llaw a arddangosir fel ychwanegiadau ar gwales.com, nid barn PCYDDS mohoni o anghenraid, ac ni ddylid ei dehongli fel y cyfryw.

Ni fydd PCYDDS yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am golli enillion neu elw nac am unrhyw golled o gwbl, pe digwyddai toriad yn y gwasanaeth a ddarperir gan PCYDDS drwy canolfangwasanaethaucymraeg.cymru.

Ac eithrio fel y datgenir yn benodol ar y wefan, i'r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd PCYDDS/canolfangwasanaethaucymraeg.cymru ei aelodau, ei gynrychiolwyr, ei Gyfarwyddwr na'i staff yn gyfrifol am unrhyw iawndal yn deillio o ddefnyddio neu yng nghyswllt defnyddio'r wefan. Y mae hwn yn gyfyngiad cynhwysfawr ar gyfrifoldeb sy'n berthnasol i iawndal o unrhyw fath, heb gyfyngiad, boed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colli eiddo neu niwed iddo, a hawliadau trydedd blaid.

Archebion

Mae’r wefan canolfangwasanaethaucymraeg.cymru yn darparu dolen at wefan siop Peniarth, siop.canolfangwasanaethaucymraeg.cymru. provides a link to the Peniarth web shop, siop.canolfangwasanaethaucymraeg.cymru. Mae defnydd o'r siop ac archebion a wneir yno yn destun polisi preifatrwydd ar wahân: https://siop.canolfangwasanaethaucymraeg.cymru/policies/privacy-policy

Rheolir eich defnydd o wefan canolfangwasanaethaucymraeg.cymru gan gyfraith Cymru a Lloegr a bernir bod y defnydd hwn wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig.

Gwasanaethau trydydd parti

Rhennir eich gwybodaeth â nifer fach o drydydd partïon, ond dim ond i'r graddau sy'n ofynnol ganddynt i gyflawni'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu i ni. Er enghraifft, rydym yn defnyddio Sendstack fel ein darparwr cylchlythyron. Rydym wedi dewis y gwasanaeth hwn yn benodol oherwydd ei safiad a'i arferion ynghylch preifatrwydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://getsendstack.com/privacy

Trwy gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr, rydych yn cytuno i dderbyn unrhyw ohebiaeth farchnata gan y Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg, y mae Peniarth yn rhan ohoni. Bydd gohebiaeth a anfonir bob amser yn ymwneud â gwaith adrannau’r Ganolfan, Peniarth (https://peniarth.cymru), a Rhagoriaith (https://rhagoriaith.cymru). O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn postio gwybodaeth yn y cylchlythyr sy'n ymwneud â gwaith sefydliadau eraill. Bydd y rhain yn sefydliadau partner y mae gennym berthynas waith â nhw, a bydd y wybodaeth o natur yr ydym yn ei hystyried o ddiddordeb i danysgrifwyr. Ni fyddwn yn defnyddio'r cylchlythyr i gynhyrchu incwm o hysbysebu. Pan fo'n berthnasol, gall y wybodaeth yma gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti nad ydynt yn gyfrifoldeb PCYDDS. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y gwefannau hyn, a bydd defnydd o'r gwefannau hyn yn amodol ar eu telerau ac amodau eu hunain a'u polisïau preifatrwydd.