
- Prosiect Ymchwil: PhD
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Mehefin 2024
- Cyfweliadau: 24 Mehefin 2024
- Dyddiad dechrau: Tymor yr hydref
- Prif Oruchwyliwr: Dr Dylan Blain
Manylion y prosiect*
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnig ysgoloriaeth PhD o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym maes Addysg Gorfforol / Gwyddorau Chwaraeon gan ganolbwyntio ar gefnogi llythrennedd corfforol oedran glasoed yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru (2022).
Bydd y prosiect arloesol hwn yn defnyddio dulliau cymysg i adeiladu ar waith diweddar a wnaeth sefydlu potensial modelau dysgu cyfun-gamu (blended-gamified) ar gyfer cefnogi llythrennedd corfforol, iechyd a lles pobl ifanc. Yn benodol, bydd yr astudiaeth yn ceisio sefydlu, trwy ymchwil gymhwysol, pa elfennau o ddulliau cyfun-gamu (“blended-gamified”) sy'n gweithio, pryd, ym mha gyd-destunau ac ar gyfer pwy.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd mewn pwnc perthnasol ynghyd â sgiliau rhyngbersonol ardderchog, profiad o weithio’n gyda phobl ifanc mewn cyd-destun addysg gorfforol neu chwaraeon, uchelgais i ddatblygu fel ymchwilydd a diddordeb byw mewn cefnogi iechyd a lles.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â chymuned o ymchwilwyr ac yn gallu manteisio ar rwydweithiau a chefnogaeth drwy’r Brifysgol, gan gynnwys Athrofa Rheolaeth ac Iechyd ac Academi Iechyd a Llythrennedd Corfforol Cymru. Disgwylir i’r traethawd ymchwil terfynol gael ei gyflwyno yn y Gymraeg a bydd cymorth priodol i gyflawni hyn.
Bydd disgwyl i ddeiliaid gyfrannu at yr addysgu ar raglenni israddedig drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd at 5 awr yr wythnos, neu dim mwy na 60 awr mewn blwyddyn) o fewn eu hysgolion/adrannau academaidd yn ail a thrydedd flwyddyn eu dyfarniad.
Manylion ariannu
Ariennir y prosiect hwn yn llawn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am 3 blynedd.
Bydd y cynllun yn darparu cyllid ar gyfer cyfrannu at; ffioedd safonol a grant cynhaliaeth.
Gofynion academaidd
Gofyniad o ran y Gymraeg - Rhaid cyflwyno’r traethawd yn Gymraeg.
Meini prawf academaidd Gradd dosbarth 1 / 2.1 (mewn pwnc perthnasol) neu radd dosbarth 2.2 a gradd meistr (mewn pwnc perthnasol) neu brofiad proffesiynol perthnasol ychwanegol.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich CV a llythyr cais (dim mwy na 2 ochr A4) yn amlinellu pam fod gennych ddiddordeb yn y maes hwn at Ffion Hann-Jones, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant erbyn y 17eg o Fehefin 2024. Cynhelid cyfweliadau ar y 24ain o Fehefin 2024.
Am sgwrs anffurfiol ac unrhyw gyngor pellach am yr ysgoloriaeth a’r prosiect ymchwil cysylltwch â Dr Dylan Blain d.blain@pcydds.ac.uk.
Amodau
Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil 2024/25 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
*This is a Welsh medium scholarship and the ability to speak Welsh is essential.