CGC PRIF LOGO UWTSD

Rhestr Staff

Staff

Jeni Price: Jeni fu’n rheoli pob un o brosiectau sylweddol diweddaraf Peniarth.

Lois Griffiths: Rheolwraig prosiectau profiadol iawn bu’n rheoli Celftastig yn ddiweddar. Lois hefyd sy’n rheoli gweithgarwch Tric a Chlic y Ganolfan.

Catrin Evans-Thomas: Rheolwraig, golygydd ac awdur prosiectau, e.e. Brethyn Cymru a Rhyngom.

Dr Sioned V. Hughes: Uwch-ddarlithydd ar y rhaglenni BA Addysg GAC a TAR Cynradd, ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Awdures doreithiog ar adnoddau, e.e. Enwogion Cymru, Cestyll yn yr Oesoedd Canol, Dewch i Deithio.

Lilian Martin – Ymgynghorydd: Addysgwraig Tsieineaidd a anwyd ym Mhrydain. Uwch Ddarlithydd AGA yn PCYDDS ac ymchwilydd LlC ar DARPL sy'n cyfrannu at Gynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru. Yn ymddiriedolwr Rhwydwaith BAMEed, mae’n eiriolwr dros gyfiawnder cymdeithasol, addysg gwrth-hiliol, a thegwch mewn STEM.

Rhiannon Sparks: Uwch Ddylunydd y Ganolfan sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o arlunwaith a chysoni’r Ganolfan. Mae sampl o’i gwaith i'w weld ym mhortffolio’r cais.

Sian Elin Williams: Sian sydd wedi gwneud y rhan fwyaf o waith sain, ffilm a dylunio’r Ganolfan ac mae ei gwaith hefyd i'w weld yn y portffolio.

Henry Young: Henry sy’n gyfrifol am holl waith rhyngweithiol a datblygu gwe’r Ganolfan a cheir enghreifftiau eto yn y portffolio.

Rhian Abbot: Golygydd Copi dynodedig Peniarth.

Catherine Davies: Swyddog Sicrhau Ansawdd sy’n cynnwys gwirio a chaffael hawlfraint.